Senedd Cymru

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

 

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2022

 

Dathlodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth ei ben-blwydd yn 20 oed yn 2022. Ers ei sefydlu, mae’r grŵp wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddod â phobl awtistig, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr ynghyd â gweithwyr proffesiynol ac Aelodau’r Senedd i drafod gwasanaethau a chymorth.

 

 

1.    Aelodaeth y grŵp a deiliaid swyddi

 

Cadeirydd: Mark Isherwood AS

 

Aelodau eraill:

 

Paul Davies AS

Hefin David AS

Heledd Fychan AS

Mike Hedges AS

Joyce Watson AS

 

Ysgrifennydd: Chris Haines, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru

 

Sylwer: Ymddiswyddodd Tim Nicholls, pennaeth dylanwadu ac ymchwil y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, fel ysgrifennydd mewn cyfarfod ar 13 Rhagfyr 2021, ar ôl i’r elusen recriwtio rheolwr materion allanol newydd yng Nghymru. Etholwyd Chris Haines yn ysgrifennydd yn yr un cyfarfod.

 

 

2.    Cyfarfodydd y grŵp

 

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth wedi cynnal pedwar cyfarfod cyhoeddus dros y flwyddyn ddiwethaf: ym mis Rhagfyr 2021, wedyn ym mis Mawrth, Mehefin a Hydref 2022. Oherwydd pandemig y coronafeirws, ni chyfarfu’r grŵp o fis Chwefror 2020 nes iddo gael ei ailsefydlu ar ddechrau’r Chweched Senedd.

 

Mae cyfarfodydd wedi cael eu cynnal ar-lein dros Microsoft Teams, gyda chyfarfod cyffredinol blynyddol mis Hydref yn cael ei gynnal mewn ffordd hybrid a rhai aelodau’n ymuno wyneb yn wyneb yn yr Hwb Llesiant yn Wrecsam. Mae crynodebau o’r materion a drafodwyd a rhestr o’r rhai a oedd yn bresennol ar gael isod:

 

 

13 Rhagfyr 2021– Cyfarfod Rhithiol

 

Trosolwg: Rhoddodd Julie Annetts, pennaeth tîm anabledd dysgu, awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol Llywodraeth Cymru, yr wybodaeth ddiweddaraf am y Cod Ymarfer ar Ddarparu gwasanaethau Awtistiaeth. Amlinellodd waith i gysoni polisi drwy gael gwared ar weithio mewn seilos, meithrin cydweithredu, hyrwyddo integreiddio a chanfod bylchau. Dywedodd Julie Annetts wrth y grŵp fod blaenoriaethau polisi yn cynnwys gweithredu’r cod awtistiaeth statudol yn ogystal â chynllun cyflyrau niwroddatblygiadol integredig i bob oed.

 

Clywodd y grŵp hefyd gan Dr Sarah Broadhurst, cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Addysg Awtistiaeth (AET), a roddodd drosolwg o waith yr AET yn Lloegr. Dywedodd Dr Broadhurst fod yr AET wedi datblygu wyth egwyddor ymarfer awtistiaeth da a fframweithiau safonau sy’n cael eu harwain gan ymchwil ar gyfer y blynyddoedd cynnar, ysgolion ac ôl-16. Gofynnodd am sylwadau ar gynlluniau’r AET i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith safonau ar gyfer cyd-destun Cymru.

 

Rhoddodd Felicity Stephenson, o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, drosolwg ar ganllaw arferion da ar gyfer gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol; rhoddodd Davina Carey-Evans gyflwyniad ar Piws, prosiect sy’n ceisio gwneud Cymru’n fwy hygyrch; a siaradodd Ruth Rabet am y Blodyn Haul Anableddau Cudd.

 

Yn Bresennol: Mark Isherwood, Heledd Fychan, Carolyn Thomas, Rachel Brown, Julie Annetts, Sarah Broadhurst, Felicity Stephenson, Davina Carey-Evans, Ruth Rabet, Chris Haines, Marie James, Samantha Lambert-Worgan, Catherine Vaughan, Frances Rees, Einir Price, Rob Newton-Miller, Tim Nicholls, Elaine Jennings, Amanda Daniels, Kirsty Jones, Gemma Jones, Aoife Pryor, Amanda Evans, Beth Edwards, Claire Bullock, Caroline Rawson, Jacquelyn Elias, David Davies, John Price, Kieran Fraser, Leanne Mathers, Kelly Preston and Dan Rose

 

7 Mawrth 2022 –Cyfarfod Rhithiol

 

Trosolwg: Cyflwynodd Steffan Davies, ymgeisydd am radd PhD ym Mhrifysgol Abertawe, ganfyddiadau ei adroddiad ar addysg disgyblion awtistig yng Nghymru. Un o themâu allweddol ei ymchwil oedd gwahanol lefelau o fodlonrwydd â darpariaeth prif ffrwd ac arbenigol. Dim ond 48% o ddisgyblion oedd yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn lleoliadau prif ffrwd o’i gymharu â 78% mewn ysgolion arbenigol. Rhoddodd Mr Davies drosolwg o ganlyniadau arolygon o ddisgyblion awtistig, rhieni/gofalwyr ac addysgwyr. Tynnodd sylw at thema allweddol, gyda 77% o weithwyr addysg proffesiynol yn teimlo bod ganddynt ddealltwriaeth dda o awtistiaeth, gan ostwng i 50% pan ofynnwyd i rieni a 28% ymysg disgyblion.

 

Rhoddodd Amber Spiller, Natasha Castelini a Simon Mustoe – o Garchar Ei Fawrhydi y Parc – gyflwyniad hefyd am waith blaenllaw’r carchar yn y Deyrnas Unedig ar niwroamrywiaeth. Fe wnaethant dynnu sylw at ystadegau am bobl ag anabledd dysgu yn y carchar, gan ddweud eu bod dair gwaith yn fwy tebygol o dreulio amser ar wahân neu o fod ag iselder clinigol. Fe wnaethant hefyd dynnu sylw at y rhwystrau sy’n wynebu pobl ag anableddau dysgu, fel diffyg preifatrwydd, anhawster i ddiwallu anghenion synhwyraidd a risgiau o ran camfanteisio. Tynnodd Mr Mustoe sylw at y ffaith bod y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a Choleg Brenhinol y Nyrsys wedi cydnabod bod y carchar yn enghraifft o arfer gorau.

 

Yn Bresennol: Mark Isherwood, Carolyn Thomas, Steffan Davies, Amber Spiller, Natasha Castelini, Simon Mustoe, Chris Haines, David Fox, Ceri Low, Claire Bullock, Rachel Brown, Beth Ryan, Barbara Howe, Keith Ingram, Harvey Philpott, David Evans, Enid Morris, Jacquelyn Elias, Willow Holloway, Eleri Walters, Sam Walsh, Stephane Guidon, Steffan Phillips, Sioned Thomas, Siôn Edwards, Sarah Broadhurst, Samantha Lambert-Worgan, Dan Rose, Rehema Gakoto, Rachel Hancocks, Monique Craine, Michael Williams, Lindsay Brewis, Leanne Mathers, Karen Shepherd, John Price, Jo Phillips, Jan Roberts, Ryland Doyle, Davina Carey-Evans, Amanda Evans, Beth Edwards, Anne Woods, Aimee Louviere-Cowen, Carys Holt, and Enid Harris

 

13 Mehefin 2022 – Cyfarfod Rhithiol

 

Trosolwg: Myfyriodd Willow Holloway – cyfarwyddwr Autistic UK yn ogystal â chadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Anabledd Cymru – ar y prosiect Grymuso Menywod Awtistig (AWE), a lansiodd yn swyddogol saith mlynedd yn ôl ar 13 Mehefin, 2015. Esboniodd fod prosiect AWE wedi cael ei lansio i rymuso menywod a merched awtistig drwy ddatblygu rhwydwaith a darparu cefnogaeth gan gymheiriaid. Dywedodd wrth y rhai a oedd yn bresennol fod y prosiect wedi ei sefydlu i godi ymwybyddiaeth yn y lle cyntaf ond ei fod wedi dod yn gyfrwng i ymgyrchu dros gydnabod a derbyn.

 

Amlinellodd Kat Williams, cyfarwyddwr anweithredol ac arweinydd ym maes ymchwil yn Autistic UK, brosiectau ymchwil gan gynnwys adolygiad systematig o brofiadau menywod awtistig o fwydo babanod – prosiect dan arweiniad Aimee Grant ym Mhrifysgol Abertawe. Amlinellodd hefyd adolygiad o basbortau iechyd awtistiaeth ac astudiaeth o ddewis iaith yn y gymuned ar gyfer nifer o anableddau datblygiadol.

 

Yn Bresennol: Mark Isherwood, Carolyn Thomas, Willow Holloway, Kathryn Williams, Aimee Grant, Amy RL Hughes, Bethan Edwards, Bethan Gilson, Bill Fawcett, Carys Holt, Catherine Edevane, Catherine Vaughan, Cllr Jane Tremlett, Dave Evans, David Vittle Thomas, Steffan Davies, Debbie Shaffer, Debbie Jackson, Debra Mitchell, Ryland Doyle, Elaine Jennings, Frances Rees, Rebecca Gooch, Eleri Griffiths, Rachel Hazelwood, Heather Lucas, Helen Bucke, Keith Ingram, Janet Williams, Jo Taylor, John Price, Jolene Martin, Kieran Fraser, Kirsty Jones, Lindsay Brewis, Michael Imperato, Michael Williams, Monique Craine, Nicole Mitchell Meredith, Paula Shoosmith, Rebecca Lydon, Dan Rose, Samantha Williams, Selina Johnson, Sheladevi Nair, Shah Shumon, Sian Owen, Siôn Edwards, Sioned Thomas, Stephane Gidon, Suzanne Rinvolucri, Rachel Brown, Einir Price, Heledd Roberts and Chris Haines

 

24 Hydref 2022 – Cyfarfod cyffredinol blynyddol hybrid o Hwb Llesiant Wrecsam

 

Trosolwg: Ailetholwyd Mark Isherwood AS yn gadeirydd y grŵp ar ôl cael ei gynnig gan Carolyn Thomas AS, ac ailetholwyd Chris Haines yn ysgrifennydd.

 

Rhoddodd Dr Duncan Holtom, Pennaeth Ymchwil Pobl a Gwaith, drosolwg o ganfyddiadau’r adolygiad o’r galw, capasiti a dyluniad gwasanaethau niwroddatblygiadol (ND). Dywedodd wrth y cyfarfod, er gwaetha’r buddsoddiad mewn gwasanaethau ND i blant a’r Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig, sydd wedi gwneud Cymru’n wlad arloesol, fod rhestrau aros hir wedi datblygu. Dywedodd DH mai dim ond un diagnosis a wnaed am bob dau blentyn neu oedolyn a gyfeiriwyd i gael diagnosis. Ychwanegodd fod capasiti’n cael ei gyfyngu gan faint bychan y timau sy’n golygu bod gwasanaethau’n arbennig o agored i broblemau recriwtio a chadw staff. Dywedodd DH fod y gweithgor wedi nodi tri nod allweddol: mynediad cynt at gymorth a chefnogaeth gynnar, mynediad cyflymach at asesiadau arbenigol, a mynediad cyfartal at wasanaethau a chefnogaeth. Dywedodd wrth yr aelodau y dylai hyn gael ei ategu gan ddull gweithredu systemau cyfan ‘dim drws anghywir’, sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn ac sy’n darparu cymorth yn seiliedig ar angen yn hytrach na diagnosis. Pwysleisiodd DH hefyd yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwroamrywiaeth.

 

Amlinellodd Julie Annetts, pennaeth y tîm polisi niwroddatblygiadol, ymateb Llywodraeth Cymru i’r adolygiad. Tynnodd sylw at gyhoeddiad y Dirprwy Weinidog ynghylch buddsoddiad ychwanegol o £12 miliwn hyd at fis Mawrth 2025. Cyfeiriodd JA hefyd at rôl grŵp cynghori’r Gweinidog ar gyflyrau niwroddatblygiadol newydd. Esboniodd y bydd tair ffrwd waith i’r rhaglen wella newydd sy'n ymestyn dros gyfnod o dair blynedd. Y ffrwd gyntaf yw cymryd camau ar unwaith i ddarparu cymorth ychwanegol i leihau’r pwysau ‘fel y mae pethau nawr’ ar wasanaethau asesu a rhoi cymorth y mae mawr ei angen ar rieni a theuluoedd. Bydd yr ail ffrwd yn cydgynhyrchu ac yn profi modelau i ddiwygio gwasanaethau ND yn y tymor hwy. Bydd y drydedd ffrwd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau trawsbynciol, fel strategaeth gweithlu a ffyrdd gwell o gasglu data. Ychwanegodd JA y bydd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn dod yn Dîm Cenedlaethol Niwroddatblygiadol, gyda Donna Sharland yn arwain y gwaith trawsnewid. Tynnodd sylw at ddigwyddiadau ymgysylltu sy’n cael eu cynnal ledled Cymru a fydd yn helpu i rannu’r rhaglen gwella cyflyrau ND.

 

Yn Bresennol: Mark Isherwood AS, Carolyn Thomas A, Dr Duncan Holtom, Julie Annetts, Dr Alberto Salmoiraghi, Andrea Hughes, Ioan Bellin, Catie Parry, Ceri Low, Christy Hoskings, David Fox, Steffan Davies, Keith Ingram, Jan Thomas, Karen Shepherd, Kathleen Eley; Katie Hiscox, Kirsty Jones, Kyle Jamie Eldridge, Lee Green, Liz Fletcher, Lynette Hibbert; Monique Craine, Nicole Mitchell-Meredith, Liz Ponting, Kirsty Rees, Rosie Edwards, Ruth Rabet, Samantha Lambert-Worgan, Sian Owen, Steffan Phillips, Sioned Thomas, Stephane Guidon, Stephanie Shobiye, Alexander Still, Sue Evans, Suzanne Rinvolucri, Vaugn Price, Gareth Williams, Willow Holloway, Yvonne Odukwe. Catherine Vaughan, Eleri Griffiths, Shelly Godfrey-Coles, Katherine Wyke, Heather Lucas, Chris Haines, Elaine Jennings, David Jennings, Gillian Brokeley, Bethan Kendall, Rachel Hancocks, Justin Hurst a Helen Wilson.

 

2023 – Mae’r dyddiadau a’r amseroedd a ganlyn wedi cael eu pennu dros dro ar gyfer cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth yn 2023. Cadarnheir y lleoliadau yn nes at yr amser.

 

·         Dydd Llun 23 Mehefin (10.30am-hanner dydd)

·         Dydd Llun 24 Ebrill (10am-11.30am)

·         Dydd Gwener 14 Gorffennaf (10.30am-hanner dydd)

·         Dydd Llun 16 Mehefin (10.30am-hanner dydd)

 

 

3.    Lobïwyr proffesiynol, a mudiadau gwirfoddol neu elusennol mae’r grŵp wedi cyfarfod â nhw yn ystod y flwyddyn flaenorol

 

Cyfarfu Mark Isherwood AS, y cadeirydd, a Chris Haines, yr ysgrifennydd, â Mia Rees, lobïwr proffesiynol ar ran Deryn Consulting Ltd, ochr yn ochr â chynrychiolwyr o Gymdeithas Seicolegol Prydain i drafod canllawiau arferion gorau’r sefydliad ar 24 Medi, 2021.

 

Yn ogystal, mae cynrychiolwyr o’r mudiadau gwirfoddol neu elusennol a ganlyn wedi bod yng nghyfarfodydd y grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf:

 


·         Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

·         Autistic UK

·         Ymddiriedolaeth Addysg Awtistiaeth

·         Piws

·         Y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru

·         Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd

·         Autism Spectrum Connections Cymru

·         Autistic Minds

·         Snap Cymru

·         Bridges Centre

·         Plant yng Nghymru

·         Gofalwyr Cymru

·         Anabledd Cymru


 

 

4.    Datganiad Ariannol

 

Treuliau

Yn ystod y flwyddyn hyd at 24 Hydref 2022, achoswyd y treuliau a ganlyn:                       


Cyfieithu

Teithio

Mannau cyfarfod

Cyfanswm

£612.00

£98.65

£30.00

£740.65


 

Buddion

Talwyd costau’r ysgrifenyddiaeth a chyfarfodydd, a amlinellir uchod, gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru.